Amlosgfa Gwent
Croeso i Amlosgfa Gwent
Wedi'i leoli yng Nghroesyceiliog, rydym yn gwasanaethu cymunedau De-ddwyrain Cymru a'r ardaloedd cyfagos.
Mae gan ein hamlosgfa arobryn gyfleusterau modern ac mae'n darparu amgylchedd o ansawdd uchel i deuluoedd ddweud ffarwel am y tro olaf.
Mae'r gerddi hardd a'r capel mawr wedi'u cynllunio i fod yn lleoliad heddychlon a naturiol ar gyfer gwasanaethau.
Mae ein tîm cyfeillgar wrth law i helpu sut bynnag y bo modd, felly mae croeso i chi gysylltu â ni.
Sut gallwn ni helpu?
Mwy o wybodaeth ar
Y capel
Mae'r capel yn olau, yn ffres ac yn gyfforddus, ac mae’r dodrefn wedi’u gwneud o goed derw.
Gardd goffa
Rydym yn hynod falch o'r tiroedd hardd sydd wedi'u tirlunio yn ein gardd goffa.