Cafodd y syniad o'r amlosgfa ei grybwyll gyntaf mor gynnar â 1946, ond ni ellid sicrhau cyllid i'w adeiladu.
Yn fuan wedyn, rhoddwyd cyllid i'r 24 awdurdod lleol a oedd yn rhan o'r ardal ar y pryd, a ffurfiwyd Cyd-bwyllgor Amlosgi Sir Fynwy a Chasnewydd.
Costiodd tua £85,000 i'w hadeiladu, ac agorodd yr amlosgfa ar ei safle 5.5 erw yng Nghroesyceiliog yn 1960.
Dyluniwyd yr adeilad gan Mr F Buckley o sefydliad pensaernïol Syr Percy Thomas a’i Fab, Caerdydd. Hwn oedd yr amlosgfa gyntaf i’r cwmni ei adeiladu.
Yn wreiddiol, bu’r amlosgfa yn cartrefu dau beiriant amlosgi Gibbons Askam, ac ym mis Ionawr 1964, gosodwyd peiriant Dowson & Mason mewn ymateb i gynydd yn y galw am y gwasanaeth.
Dyma ddechrau cysylltiad hir gyda'r cwmni, a ddaeth yn rhan o Evans Universal ac yna Facultatieve Technologies, sydd wedi parhau hyd heddiw.
Cost amlosgi oedolyn yn 1960 oedd £5 5s 0d, gyda ffi ychwanegol o 3s 6d am dystysgrif amlosgi.
Hanner canmlwyddiant
Yn 2010, i nodi 50 mlynedd ers ei sefydlu, plannwyd nifer sylweddol o goed newydd yn yr Ardd Goffa.
Roedd y rhain yn cynnwys rhywogaethau anarferol a rhai sydd mewn perygl.
Rydym yn gobeithio y bydd y rhain yn tyfu’n ardd goed ddiddorol a llesol i’r amgylchedd.
Yn ogystal â'r fenter ymarferol iawn hon, gwnaethom ddangos ein hymrwymiad parhaus i ofal cwsmeriaid trwy ymgeisio’n llwyddiannus am achrediad y Siarter Profedigaeth.
Gwobrau
Mae'r amlosgfa wedi derbyn nifer o wobrau cenedlaethol mawr dros y blynyddoedd.
Mae'r rhain wedi cynnwys:
- Y Siarter Profedigaeth 2019, 2020 a 2021 - llwyddo yn y wobr aur
- Cymru yn ei Blodau 2018 a 2019 - Enillydd y Fedal Aur a'r Wobr 1af yn y categori Adeiladau Cyhoeddus
- Gwobrau Angladd Da 2016 - Cawsom ein rhoi ar restr fer Amlosgfa’r Flwyddyn, a chawsom Dystysgrif Cymeradwyaeth gwasanaeth i'r rhai mewn profedigaeth
- Baner Werdd 2016-2021 - Roeddem yn falch o lwyddiant ein tiroedd yn ein cais cyntaf am Achrediad Baner Werdd yn 2016. Buon ni’n dal yr achrediad am sawl blwyddyn ar ôl hynny
- Siarter Profedigaeth 2010-2018 - Gwobr Arian ym mhob blwyddyn yn olynol
- Mynwent y Flwyddyn 2007 - derbyniasom Gydnabyddiaeth Anrhydeddus yn yr adran amlosgfa a Gwobr Arbennig am yr arddangosfeydd blodau gorau naill ai mewn amlosgfeydd neu fynwentydd
- Mynwent y Flwyddyn 2006 - ail yn yr adran rhagoriaeth amlosgfeydd ac arloesedd ym maes rheoli mynwentydd, dylunio a gwasanaeth cwsmeriaid
Mae'r amlosgfa hefyd wedi ymddangos ar y teledu, gan gynnwys ar raglen y BBC How To Have a Good Death.