Mae'r Cyngor yn gwneud ei orau i gadw'r wybodaeth ar y safle hwn yn gywir, ond ni all dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled neu niwed a allai ddigwydd o ganlyniad i ddefnyddio'r wybodaeth.
Os sylwch ar rywbeth sy'n achosi pryder, cysylltwch â ni.
Mae atgynhyrchu'r deunydd hwn mewn unrhyw ffordd, heb ganiatâd y Cyngor, wedi'i wahardd.
Mae cyfraith Cymru a Lloegr yn berthnasol i gynnwys y wefan hon. Gallai hawliau eiddo deallusol mewn rhywfaint o'r deunydd hwn gael eu dal gan awduron unigol.
Ymwadiad E-bost
Mae dolen i'r ymwadiad hwn wedi'i chynnwys yn awtomatig ym mhob neges e-bost sy'n cael ei hanfon yn allanol gan Gyngor Dinas Casnewydd a'i gyflogeion.
- Mae'r neges e-bost hon yn cynnwys gwybodaeth a fwriadwyd ar gyfer y derbynnydd yn unig a gall fod yn gyfrinachol, yn destun braint gyfreithiol neu broffesiynol, neu wedi'i hamddiffyn fel arall rhag cael ei datgelu. Bwriedir y trosglwyddiad hwn ar gyfer y derbynnydd/derbynyddion sydd wedi'u henwi yn unig a gallai gynnwys deunydd sensitif neu ddeunydd a farciwyd yn GYFYNGEDIG a dylai gael ei drin yn unol â hynny. Oni bai chi yw'r derbynnydd sydd wedi'i enwi (neu wedi'ch awdurdodi i'w dderbyn ar ran y derbynnydd) ni chewch ei gopïo na'i ddefnyddio, na'i ddatgelu i unrhyw un arall. Os ydych wedi cael y trosglwyddiad hwn ar ddamwain, rhowch wybod i'r anfonwr ar unwaith. Gallai holl draffig GCSX gael ei recordio a/neu ei fonitro yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol. Mae'r neges e-bost hon ac unrhyw ffeil sydd ynghlwm wrthi yn eiddo i Gyngor Dinas Casnewydd. Nid yw unrhyw farn sydd wedi'i mynegi yn y neges hon o reidrwydd yn adlewyrchu barn Cyngor Dinas Casnewydd.
- Ni fydd unrhyw beth yn y neges hon yn awgrymu unrhyw berthynas gytundebol â'r Cyngor, ei asiantau na'i gyflogeion, oni chaiff hynny ei nodi'n benodol neu ei ddilyn i fyny yn ysgrifenedig gan swyddog awdurdodedig.
- Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi cymryd camau rhesymol i sicrhau nad yw negeseuon sy'n mynd allan yn cynnwys meddalwedd faleisus. Ni all yr e-bost fyth fod 100% yn ddiogel a'ch cyfrifoldeb chi yw cynnal gwiriadau firws neu unrhyw wiriadau eraill sy'n briodol yn eich barn chi.
- Pan fyddwch chi'n e-bostio Cyngor Dinas Casnewydd, rydych chi'n cytuno y gall y Cyngor fonitro a darllen unrhyw negeseuon e-bost o'r fath at ddibenion diogelwch a chydymffurfio â deddfwriaeth.
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn gweithio tuag at ofynion Mewnrwyd Ddiogel y Llywodraeth (GSi).
Gwybodaeth/dolenni trydydd parti
Nid yw'r Cyngor yn rheoli ac ni all warantu perthnasedd, amseroldeb na chywirdeb gwybodaeth a ddarperir gan asiantaethau, sefydliadau neu unigolion eraill, ac nid yw ychwaith yn cadarnhau unrhyw farn, cynhyrchion na gwasanaethau a allai gael eu cynnig.
Diogelu Data
Mae'r Cyngor wedi'i gofrestru o dan Ddeddf Diogelu Data 1998, sy'n caniatáu i ni ddal a phrosesu gwybodaeth bersonol. Rydym yn addo defnyddio gwybodaeth o'r fath at y diben y'i cyflwynwyd yn unig ac yn unol â'r hyn a ganiateir gan y Ddeddf.
Problemau Firws
Mae'r Cyngor yn gwneud pob ymdrech i archwilio'r ffeiliau sydd ar gael i'w lawrlwytho ar y safle hwn am firysau. Ni all y Cyngor dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled neu niwed a allai ddigwydd yn sgil defnyddio deunydd sydd wedi'i lawrlwytho. Argymhellwn fod defnyddwyr yn ailwirio pob deunydd sy'n cael ei lawrlwytho gyda'u meddalwedd gwirio firysau eu hunain.