Mae'r capel modern ar ei newydd wedd yn olau, yn ffres ac yn gyfforddus, ac mae’r dodrefn wedi’u gwneud o goed derw. Mae hefyd yn cynnwys rhannau sydd wedi’u gwneud o Farmor Ashburton.

Mae seddi ar gyfer tua 120 o bobl, gyda lle i 50 arall sefyll.

Os oes angen mwy o le, mae yna hefyd system annerch gyhoeddus ym mynedfa'r capel. Mae gwasanaethau'n cael eu dangos yn yr ardal hon drwy fideo hefyd, ar banel arddangos plasma mawr.

Mae rampiau ym mhob mynedfa ac allanfa gan roi mynediad hawdd i bobl sydd ag unrhyw broblemau symud. Cynigir lleoedd pwrpasol i ddefnyddwyr cadair olwyn, ac mae system dolen ar waith i gynorthwyo defnyddwyr cymorth clyw.

Am ffi rydym hefyd yn gallu:

  • Darlledu gwasanaethau’n fyw dros y rhyngrwyd
  • Cynnig recordiadau fideo o wasanaethau
  • Trefnu i deyrngedau gweledol gael eu dangos yn y capel yn ystod gwasanaeth angladdol

Gweler mwy o fanylion drwy fynd i’n rhestr brisiau llawn. 

Mae'r gwelliannau diweddar i'r capel yn cynnwys:

  • Carpedi newydd
  • Gostwng y catafalque i leddfu'r baich ar y sawl sy’n cario’r arch
  • Organ digidol newydd
  • System oeri aer i'w defnyddio yn yr haf

Rydym yn croesawu angladdau gan bobl o bob enwad a chred.  Ar gais, gellir tynnu'r groes bren o flaen y capel.

Oes gennych chi gwestiwn?

Os nad ydych wedi dod o hyd i'r hyn yr ydych yn chwilio amdano neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â ni.

Cysylltwch â ni